YMATEB I'R PWYLLGOR CYDRADDOLDEB, LLYWODRAETH LEOL A CHYMUNEDAU YNGHYLCH YR YMGYNGHORIAD AR Y BIL LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU)

AR RAN CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE

 

Hysbyswyd Arweinwyr Gweithredol a Grŵp Dinas a Sir Abertawe o Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Yn rhannol oherwydd yr Etholiad Cyffredinol a'r ffaith nad oedd cyfarfod y cyngor wedi'i gynllunio ar gyfer mis Rhagfyr, nid oedd yn bosib cyflwyno adroddiad i'r cyngor llawn gyda'r nod o gyflwyno ymateb ymgynghoriad ffurfiol. Fodd bynnag, mae'r sylwadau isod yn cynrychioli'r meysydd hynny a chanddynt gefnogaeth drawsbleidiol yn y cyngor. Gall grwpiau gwleidyddol gyflwyno eu hymateb eu hunain i'r pwyllgor yn uniongyrchol.

Gan gyfeirio at gylch gorchwyl y pwyllgor, mae'r sefyllfa fel a nodir isod:

Rhan 1 - Etholiadau

Sefyllfa'r cyngor yw ei fod at ei gilydd yn gefnogol o ehangu'r hawliau pleidleisio i'r rheini sy'n 16/17 oed (gall grwpiau gwleidyddol unigol yn Abertawe gyflwyno sylwadau ar wahân i’r Pwyllgor ar y rhan hon or Bil) gyda'r nod o ehangu ymrwymiad democrataidd a chaniatáu i'r rheini sy'n cyfrannu at gymdeithas gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae'r cyngor hefyd yn gefnogol o newid y cylch etholiadol ar gyfer prif gynghorau o bedair i bum mlynedd.

O ran y system bleidleisio, mae pryderon ynghylch caniatáu i awdurdodau unigol bennu eu system bleidleisio. Teimlir y byddai hyn yn arwain at ddryswch a chymhlethdod ac felly ni chaiff ei gefnogi. Yn yr un modd, mae pryderon ynghylch caniatáu i swyddogion y cyngor sefyll mewn etholiadau oherwydd gwrthdaro posib, ond cefnogir y diwygiad i'r darpariaethau anghymwyso h.y. os yw'r swyddog yn destun gorchymyn o dan y Ddeddf Troseddau Rhywiol.

Mae'r cyngor yn croesawu mesurau i gynyddu cyfranogiad pleidleiswyr mewn etholiadau, a byddai'n annog hynny. Mae'n gyffredinol gefnogol o'r darpariaethau cofrestru etholiadol yn y Bil, ond hoffai gael sicrwydd y bydd y defnydd o ddata'n cydymffurfio â'r GDPR.

Rhan 2 - Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol

Mae'r cyngor yn cefnogi pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer awdurdodau.

Rhan 3 - Hybu Mynediad at Lywodraeth Leol

Mae'r cyngor yn croesawu cyfranogiad gan bobl leol i'r broses gwneud penderfyniadau, ond mae'n pryderu ynghylch cost unrhyw ddyletswyddau ychwanegol a osodir ar yr awdurdod h.y. wrth baratoi strategaeth cyfranogiad cyhoeddus a chostau cysylltiedig ymgynghoriad pellach.

Er bod y cyngor yn cefnogi'r egwyddorion democrataidd ynghylch darlledu pob cyfarfod sy'n agored i'r cyhoedd yn electronig, pryderir yn fawr ynghylch costau gwneud hyn o ystyried faint o gyfarfodydd y cyngor y byddai angen eu darlledu. Yn Abertawe, byddai angen ehangu gwe-ddarlledu i ystafelloedd pwyllgor eraill nad oes ganddynt systemau gwe-ddarlledu ar hyn o bryd. Felly, hoffai'r cyngor hwn weld Llywodraeth Cymru'n talu am gostau darlledu ychwanegol, presenoldeb o bell a chyfranogiad cyhoeddus.

Rhan 4 - Gweithredwyr, Aelodau, Swyddogion a Phwyllgorau'r Awdurdod Lleol

Mae'r cyngor yn croesawu'r darpariaethau statudol sy'n ymwneud â'r Prif Weithredwr, gan gynnwys rheoli perfformiad, ond byddai'n croesawu cyhoeddi arweiniad pellach ar gynnwys unrhyw adroddiad perfformiad cyhoeddedig.

Mae'r cyngor yn croesawu rhannu swyddi yn y Weithrediaeth er mwyn gwella amrywiaeth o fewn y Weithrediaeth ac er mwyn caniatáu trefniadau gweithio rhan-amser. Mae'r cyngor hwn wedi gweithredu dull o rannu swydd am nifer o flynyddoedd, sydd wedi gweithio'n dda iawn, ond croesewir y newid arfaethedig i uchafswm yr aelodau gweithredol er y cwestiynir a oes angen terfyn o 13. Cefnogir y cynigion absenoldeb teuluol.

Gan fod Pwyllgor Safonau'r cyngor hwn eisoes yn cynnal sesiwn holi ac ateb flynyddol gydag arweinwyr grwpiau ynghylch etheg a safonau, cefnogir cynnwys arweinwyr grwpiau gwleidyddol yn hyrwyddo ac yn cynnal safonau ymddygiad uchel yn y Bil.

Rhan 5 - Gweithio ar y Cyd

Cefnogir darpariaethau ar gyfer gweithio ar y cyd yn gyffredinol, fodd bynnag mae rhai pryderon ynghylch unrhyw fiwrocratiaeth ychwanegol a gaiff ei greu a'r effaith ar gyflwyno gwasanaethau o fewn yr awdurdod. Mae pryderon ynghylch ariannu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a'r gallu i recriwtio staff â sgiliau priodol.

Rhan 6 - Perfformiad a Llywodraethu Prif Gynghorau

Cefnogir hyn yn gyffredinol, ond teimlwyd y dylid cael eglurhad pellach ynghylch yr hyn a olygir gan asesiad o berfformiad gan banel ac a oedd haen archwilio ychwanegol a diangen yn cael ei gosod.